Amcanion: Hyrwyddo addysg pobl ifanc dan 25 sy’n byw neu sy’n derbyn eu haddysg yn yr ardal sy’n derbyn budd mewn ffyrdd a benderfynir gan yr Ymddiriedolwr/wraig.
Tarddiad: Sefydlwyd yr Elusen gan Ewyllys Thomas Howell (dinesydd a Dilledydd o Lundain a fu farw yn Sevilla oddeutu 1539). Cliciwch yma i ddarganfod mwy am Thomas Howell.
Yn dilyn amryw o ddiwygiadau i’r Cynllun ar ôl 1539 a awdurdodwyd gan y Comisiwn Elusennau, ar y 4ydd o Ebrill 1997, trosglwyddwyd ymgymeriad Ysgol Howell’s, Dinbych i Howell’s 2000 Limited ac un yr ysgol baratoi i Howell’s Preparatory School Denbigh Limited. Nid yw’r Elusen yn gysylltiedig mwyach â gweithrediad na rheolaeth yr un o’r ddwy Ysgol. I adlewyrchu hyn, fe gyflwynodd y Comisiwn Elusennau Gynllun newydd ar yr 11eg o Awst 2000, i ddiweddaru enw ac amcanion yr Elusen.
Detholiad o Bolisi’r Drapers’ Company ar gyfer Gwneud-grantiau o Gronfa Addysg Thomas Howell ar gyfer Gogledd Cymru.
Mae’r Ymddiriedolwr wedi sefydlu’r meini prawf canlynol ar gyfer gwneud grantiau:
a. Bydd grantiau fel arfer yn cael eu gwneud gan y Panel i sefydliadau a chyrff, nid i unigolion.
b. Dylai grantiau caledi i gefnogi unigolion gael eu cyflawni trwy wneud grantiau bloc i sefydliadau, a fydd yn gweinyddu’r grantiau sydd ohoni yn lleol. Bydd hyn yn ysgafnhau dipyn ar weinyddu, ac yn sicrhau fod y rhai mwyaf anghenus a theilwng yn cael eu helpu.
c. Dylai grantiau cael eu cyfeirio yn bennaf tuag at sector cyhoeddus addysg, er y gallai achosion arbennig o deilwng eraill o fewn y sector preifat gael eu cefnogi hefyd.
d. Ni ddylid gwneud unrhyw grant er mwyn cefnogi gweithgaredd neu bwrpas a ddylai fel arfer gael eu noddi gan arian cyhoeddus.
e. Os oes modd dylai o leiaf chwarter yr arian gael ei ddefnyddio i liniaru caledi.
f. Gall cyfran o’r arian bob blwyddyn gael ei wario ar brojectau cyfalaf.
g. Gall cyfran o’r arian bob blwyddyn gael ei wario ar brojectau sy’n defnyddio nodweddion awyr agored rhagorol Gogledd Cymru ac yn cael eu hanelu at greu arweinyddiaeth a nodweddion personoliaeth mewn pobl ifanc sy’n byw yng Ngogledd Cymru.
h. Er mwyn sicrhau fod yna gronfeydd digonol yn dal ar gael, dylai grantiau gael eu cyfyngu mewn amser ac ni ddylent fel arfer gael eu darparu o’r bron am fwy na thair blynedd.
i. Mae gwobrwyo rhagoriaeth neu gyflawniad ar ffurf gwobrau yn ddefnydd derbyniadwy o’r cronfeydd elusennol.
Sut i wneud cais am grant gan y Gronfa:
Gofynnir i chi lenwi’r Ffuflen Gais (cliciwch yma i lawrlwytho pdf) a’i hanfon i’r cyfeiriad isod.
Yn ogystal, dylai pob ymgeisydd gynnwys llythyr eglurhaol yn amlinellau nodau ac amcanion y project y ceisir nawdd ariannol ar ei gyfer a’r modd y mae’n cwrdd â’r meini prawf ar gyfer gwneud grantiau, y nifer o blant a fydd yn elwa o’r grant a’r modd y byddant yn elwa, ynghyd ag unrhyw wybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol i’r cais.
Dylai mudiadau elusennol, ac eithrio ysgolion neu golegau, hefyd ddatgan beth mae’r mudiad yn ei wneud a phwy y’r buddiolwyr, pa bryd y sefydlwyd yr elusen, ei maint a’r ardal ddaearyddol ble mae’n gweithredu. Dylid cynnwys manylion cryno am hanes gyrfa a chyraeddiadau diweddar y mudiad hefyd. Yn ogystal â’r wybodaeth ariannol sy’n ofynnol yn y ffurflen gais, dylid cynnwys manylion ffynonellau eraill o nawdd ariannol a gafwyd neu geisiadau am nawdd ariannol sydd yn ddyledus. Dylid darparu set o’r cyfrifon archwiliedig mwyaf diweddar.
Pryd i wneud cais: Dyddiadau cyfarfodydd y Panel Gwneud Grantiau yn ystod blwyddyn y Cwmni (1 Awst 2010 – 31 Gorffennaf 2011):
Dylai ceisiadau wedi’u cwblhau gael eu derbyn o leiaf dair wythnos cyn dyddiad y cyfarfod ble byddant yn cael eu hystyried.
Anfonwch eich cais at:
Mrs Susan Mayall
Gweinyddwraig Cronfa Addysg Thomas Howell ar gyfer Gogledd Cymru
Glyndwr University
Campws Plas Coch
Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW
Gwerthusiad
Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno adroddiad gwerthuso o fewn deuddeng mis ar ôl derbyn y wobr. Gweler y Canllaw ar gyfer Gwerthuso
(cliciwch yma i lawrlwytho’r pdf)