image
image
The Drapers' Company
©
image
HOME
THE COMPANY
NEWS
MEMBERS' AREA
HISTORY
HERITAGE
CHARITIES
BANQUETING
LINKS
CONTACT US
image
Introduction




The Almshouse Charities


Thomas Howell (c.1480-1537)

Ganed Thomas Howell, oedd yn fab i Gymro, oddeutu 1480 a daeth yn ddyngarwr ac yn farsiandïwr llewyrchus yn yr unfed-ganrif-ar-bymtheg. Roedd yn fab i John ac Alice Howell. Yn ddiweddarach priododd ei fam â Syr Thomas Morgan o Ben-coed, Sir Fynwy, De Cymru, yr un ardal frodorol â'i dad.

Bu Thomas Howell yn brentis i William Roche, aelod uwch o'r Drapers’ Company ac yn Faer Llundain yn nes ymlaen. Fel prentis fe weithiodd yn Sbaen. Ar ôl cwblhau ei brentisiaeth yn 1507 fe ddaeth yn Ddinesydd o'r Darpers' Company, yn Lifreiwr yn 1521, yn Warden yn 1527 a pharhaodd i fod ar Lys y Cynorthwywyr nes iddo farw, ond ni fu'n Feistr y Cwmni. 

Erbyn yr 1520s, roedd Thomas Howell yn farsiandïwr llewyrchus a chefnog. Daeth ei gyfoeth o'r fasnach Eingl-Sbaenaidd mewn amrywiaeth o ddefnyddiau main a allforwyd o Sbaen. Bu hefyd yn mewnforio olew, alwm, haearn, resins a gwin i Brydain. Ar ddiwedd ei oes bu'n byw yn Sevilla, Sbaen.

Un o etifeddiaethau mwyaf diddorol gweithgareddau Thomas Howell fel marsiandïwr yw'r llyfr cyfrifon hynod a gadwyd ganddo. Wedi'i adael gyda'r Drapers’ Company ar ôl i Howell farw, y mae wedi cael ei gadw yn Drapers’ Hall ers hynny. Y mae o ddiddordeb unigryw am ddau reswm: am y goleuni y mae'n ei daflu ar fasnach Eingl-Sbaenaidd yn ystod cyfnod cynnar y Tuduriaid, ac fel yr enghraifft Saesneg gynharaf sy'n dal i fodoli o gadw llyfrau cofnod-dwbwl.

Erbyn 1536, roedd Thomas Howell wedi clafychu a gwnaeth ei drydedd Ewyllys a'i un olaf. Yn 1537, bu farw a chafodd ei gladdu yn Sevilla. Dan amodau yr Ewyllys yma fe adawodd y gwaddol elusennol unfed-ganrif-ar-bymtheg mwyaf o bell ffordd ar gyfer cymorthdaliadau priodas. Roedd wedi priodi Joanna Christian ond gan nad oedd ganddynt blant, gadawodd  20,000 dwcat mewn aur (tua £2,700 - ffortiwn fawr yn yr unfed-ganrif-ar-bymtheg) i'r Drapers. Prynodd y Cwmni dir er mwyn codi 400 dwcat y flwyddyn er mwyn darparu gwaddolion i forynion Cymreig teilwng yn ôl dymuniad Thomas Howell. Roedd yn ffafrio gwaddolion i ferched amddifad o'i linach ef ei hun. I'w ddyfynnu, every yere for maydens for ever

Roedd yn amhosib i'r Cwmni gasglu'r holl arian a waddolwyd ond defnyddiwyd hynny o arian a gasglwyd i brynu'r Herber a thai eraill yn Dowgate yn Ninas Llundain. Yn 1543, prynodd y Cwmni gyn gartref Thomas Cromwell gan y Brenin Harri'r VIII.  Erbyn hyn, dyma Neuadd y Cwmni yn Stryd Throgmorton. Y pris a dalwyd i'r Brenin am yr eiddo oedd 1,800 marc neu £1,200. Arian Thomas Howell oedd hwn, er i'r Cwmni dalu'r elusen yn ôl yn nes ymlaen.

Elusen Thomas Howell (1547-1853)
Roedd Thomas Howell eisiau i'r llog o'i fuddsoddiadau dalu'n flynyddol am briodasau pedair merch amddifad o'i linach ef ei hun. Roedd dod o hyd i ferched priodol yn anodd i ddechrau. Gan hynny roedd y  Drapers’ Company yn hysbyebu ym Mryste ar ddyddiau marchnad. Profodd hyn yn llwyddiannus. Yn 1547, talwyd y gwaddolion cyntaf o dan amodau Ewyllys Thomas Howell.

Yn ystod y blynyddoedd canlynol, roedd y cyflenwad o ymgeiswyr oedd yn briodol gymwys o dan amodau'r Ewyllys yn fach, ac roedd yn anodd dod o hyd i fuddiolwyr cyfreithlon. O dro i dro, cafwyd ymgeiswyr twyllodrus neu anaddas.

Erbyn dechrau'r bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg, roedd yr incwm o gronfa'r Ymddiriedolaeth wedi cynyddu'n sylweddol. O ganlyniad, crewyd Cynllun newydd i reoli dyfodol yr Elusen. Roedd dod o hyd i 'ferched amddifad o'i linach ef ei hun' wedi dod yn anodd, felly ehangwyd rhychwant yr Elusen i ddarparu ar gyfer addysg merched amddifad yng Nghymru. Roedd adroddiad pedwerydd Comisiwn Elusen 1837 yn delio gydag Ymddiriedolaeth Howell yn ogystal ag elsuennau eraill. Darparodd Deddf Seneddol breifat (1853) gynllun i reoli Elsuen Thomas Howell.

Ysgol Thomas Howell
Erchodd y Cynllun yma yn 1853 fod dwy ysgol i gael eu sefydlu yn Llandâf (Caerdydd) a Dinbych yng Ngogledd Cymru i addysgu merched, ac i gynnal, dilledu a darparu bwyd ar gyfer preswylwyr amddifad a addysgwyd yn yr ysgolion. Roedd merched amddifad o'r un gwaed â Thomas Howell i gael ffafriaeth dros bawb arall wrth gael eu derbyn.  Darparwyd ar gyfer derbyn disgyblion preswyl oedd yn talu a merched dydd. Roedd penodi llywodraethwyr lleol yn nwylo'r  Drapers’ Company.

Gweinyddwyd Ysgol Howell’s, Llandâf gan Gyngor Sir Morgannwg o 1894 tan 1976 (pan ddaeth statws grant uniongyrchol i ben a daeth yr ysgol dan reolaeth Ymddiriedolaeth Ysgol Ddydd Merched). Mae'n dal i gynnal cysylltiadau agos gyda'r Drapers’ Company sy'n penodi un o'r Llywodraethwyr.

Hyd at 1997, gweinyddwyd Ysgol Howell’s, Dinbych gan y Drapers’ Company.  Yn 1975, sefydlwyd Elusen Ysgol Howell’s, Dinbych fel elusen ar wahân i lywodraethu'r ysgol. Trwy Gynllun Comisiwn Elusen ym mis Ebrill 1997, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb o ymgymryd ag Ysgol Howell’s, Dinbych i Howell’s 2000 Limited. Diweddarwyd enw a buddiolwyr yr Elusen gan Gynllun newudd yn 2000. Heddiw, mae Cronfa Addysg Thomas Howell ar gyfer Gogledd Cymru, fel y'i gelwid yn awr, yn anelu i hyrwyddo addysg pobl ifanc o dan 25 yng Ngogledd Cymru.

Darperir cyllid ar gyfer Ysgol Howell’s, Llandâf a'r Gronfa Addysg Thomas Howell ar gyfer Gogledd Cymru trwy Ymddiriedolaeth Thomas Howell, elusen a weinyddir gan y Drapers’ Company.
Back Click arrow to go back to Grant Making Trusts page.